Croeso gan y Pennaeth
CROESO I YSGOL GYFUN GYMRAEG MAES Y GWENDRAETH
Mae’n hyfryd eich croesawu i wefan Ysgol Gyfun Gymraeg Maes Y Gwendraeth i brofi ychydig o naws a chyfoeth ein cymuned ddysgu yng nghanol Sir Gaerfyrddin.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Maes Y Gwendraeth yn ysgol fywiog, blaengar, gofalgar a chroesawgar sydd â thraddodiad hir a disglair o lwyddiant mewn sawl maes, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wrth ein bodd bod disgyblion yn derbyn cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac i brofi llwyddiant yng nghymuned yr ysgol, boed hynny o fewn pynciau unigol, gweithgareddau allgyrsiol neu ddatblygiad personol. Rydym yn benderfynol bod ein holl ddarpariaeth yn canolbwyntio’n glir ar anghenion a datblygiad y disgybl unigol, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y cymorth a’r gynhaliaeth orau i ddatblygu i’w llawn botensial.
Dyddiadau Pwysig
Ein Gwerthoedd
I gynnal safonau disgyblaeth uchel rydym yn annog disgyblion i feithrin agwedd gadarnhaol a pharchus. Mae'r rhain yn cael eu hadlewyrchu a'u cefnogi trwy ein gwerthoedd cytûn.
Ein Facebook