Amdanom ni
CROESO I YSGOL GYFUN GYMRAEG MAES Y GWENDRAETH
Mae’n hyfryd eich croesawu i wefan Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth i brofi ychydig o naws a chyfoeth ein cymuned ddysgu yng nghanol Sir Gaerfyrddin.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth yn ysgol fywiog, blaengar, gofalgar a chroesawgar sydd â thraddodiad hir a disglair o lwyddiant mewn sawl maes, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wrth ein bodd bod disgyblion yn derbyn cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac i brofi llwyddiant yng nghymuned yr ysgol, boed hynny o fewn pynciau unigol, gweithgareddau allgyrsiol neu ddatblygiad personol. Rydym yn benderfynol bod ein holl ddarpariaeth yn canolbwyntio’n glir ar anghenion a datblygiad y disgybl unigol, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y cymorth a’r gynhaliaeth orau i ddatblygu i’w llawn botensial.
Sefydlwyd Ysgol Maes y Gwendraeth yn 2013 ac mae’r ysgol yn gymuned Gymreig sydd yn selio ei gwaith ar y gwerthoedd sylfaenol o ofal, parch tuag at ein gilydd a gonestrwydd.
Mae dysgu ac addysgu yn graidd i waith yr ysgol a hyderwn y bydd eich plentyn yn ffynnu yma gyda ni. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ‘gymuned Maes’, i werthfawrogi llwyddiant ein disgyblion mewn cylchoedd academaidd, ar y maes chwarae, yn y byd llenyddol a chelfyddydol, yn elusennol a chymunedol neu wrth ddatblygu ethos ac amrywiaeth o fewn cymuned yr ysgol. Yn greiddiol i’n gweithgaredd mae cyflwyno a datblygu sgiliau ieithyddol ein disgyblion, yn arbennig rhuglder a bwrlwm am y Gymraeg, sy’n amlwg hefyd o fewn arwyddair yr ysgol “Cyfoeth Bywyd Addysg”. Anogwn ein disgyblion i fanteisio ar y cyfleoedd hyn i gyfoethogi eu datblygiad fel unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mewn cyfnod o newid i’r ysgol, edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi dros y blynyddoedd nesaf i gynnal a chefnogi pob disgybl i’r camau nesaf cyffrous yn eu gyrfa a’u dyfodol.
Croeso cynnes felly i Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth
Arwyn Thomas
Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth