Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • SearchSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Fel ysgol, rydym ni eisiau gwneud yn siwr bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu llawn potensial ac i ddatblygu’n ddysgwyr gydol oes uchelgeisiol, sy’n barod i fod yn gyfranogwyr gweithredol yn eu haddysg ac yn eu cymuned.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth gyda rhai yn cael mynediad i’r grŵp cefnogi a chefnogaeth y staff Maethu. Mae nifer o blant yn derbyn cymorth yn y dosbarth yng ngofal ein cynorthwywyr addysgu ac mae eraill yn cael sesiynau cefnogi penodol gyda staff allweddol. Rhoddir cefnogaeth pellach o fewn adrannau a meysydd penodol y cwricwlwm.

Wrth ymarfer dull person ganolog, rydym yn ymfalchio yn y ffaith ein bod yn cynnig lefel uchel o gyfathrebu rhwng yr ysgol, cartref a’r dysgwyr i sicrhau’r lefel cymorth gorau posibl.

Mae’r adran hefyd yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol. Rydym wedi ffurfio cysylltiadau cryf gydag ysgolion cynradd y Cwm a’r dalgylch. Wrth weithio’n agos gyda’r ysgolion cynradd rydym yn gallu paratoi a threfnu’r ddarpariaeth gywir ar gyfer dechrau blwyddyn 7.

Mae llais y dysgwr yn elfen pwysig i helpu ni fel ysgol i wneud y penderfyniadau iawn i’r disgyblion. Ymdrechwn i gefnogi disgyblion i gyflawni eu potensial yn academaidd, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Ein nôd yw cefnogi ein disgyblion i fod mor annibynnol â phosib.

Cefnogir y disgyblion gyda’r rhwydwaith estynedig o weithwyr proffesiynol mewnol ac allanol sy’n gweithio’n agos gyda ni wrth ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol. Rydym yn teilwra’r gefnogaeth i’r unigolyn.

 

Sut mae pethau’n newid?

Mae’r modd y cefnogir plant a phobl ifanc yng Nghymru’n newid. Mae’r fideo yma'n egluro’r newidiadau:

/i/video/aln_transformation__360p_.mp4

 

 Bydd y newid hwn yn digwydd dros 3 mlynedd mewn dull graddol. Mae hyn yn golygu y bydd dau system yn digwydd ochr yn ochr o fis Medi 2021-2024.

 

Beth mae hyn yn ei olygu?

  • Bydd unrhyw newid i lefel y gefnogaeth y maent yn ei dderbyn yn digwydd fel rhan o broses adolygu ac nid oherwydd unrhyw Ddiwygio ADY. 
  • Enw newydd – caiff y term “Anghenion Addysgol Arbennig” (AAA) ac Anawsterau Dysgu a/neu Anableddau” (ADA) eu disodli gan “Anghenion Dysgu Ychwanegol” (ADY).
  • Ystod oed ehangach – bydd y system yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY o  0 i 25 mlwydd oed yng Nghymru, am y cyfnod eu bod mewn addysg bellach (nid addysg uwch) neu hyfforddiant.
  • Un cynllun unigol – Bydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn disodli Datganiadau Addysg, Cynlluniau Dysgu a Sgiliau a Chynlluniau Addysg Unigol.
  • Llais y Disgybl – bydd anghenion, barn, dymuniadau a theimladau’r dysgwr wrth graidd y broses. 
  • Mwy o gydweithio – bydd yna bartneriaethau gweithio agosach rhwng rhieni/gofalwyr a’r holl asiantaethau sy’n gweithio gyda’r plentyn/person ifanc.
  • Yr Hawl i Dribiwnlys – mae gan bob plentyn, eu rhieni/gofalwyr, a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed yr hawl i apelio at y Tribiwnlys Addysg  yn erbyn unrhyw benderfyniad a wneir o safbwynt eu ADY neu eu CDU. Rhaid rhoi mynediad i blant a phobl ifanc i wasanaethau eiriolaeth annibynnol.

Dyma ddogfennau allweddol:

  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg – pasiwyd ym mis Ionawr 2018  

  https://gov.wales/additional-learning-needs-and-education-tribunal-wales-act

 

  • Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act | GOV.WALES

https://gov.wales/additional-learning-needs-code

 

  • Cod ADY i Gymru 2021 – cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021

https://gov.wales/sites/default/files/pdf-versions/2022/5/3/1652271950/additional-learning-needs-transformation-programme-frequently-asked-questions.pdf

 

Beth fydd y drefn newydd? – Termau pwysig

PUD 

Bydd Proffil Un Dudalen gan bob disgybl. Mae’n cynnwys yr hyn mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu amdanynt, beth sy’n bwysig i’r dysgwr a’r ffordd orau i’w cefnogi. Nid yw’n statudol.

 

CDU

Bydd CDU gan blentyn/ person ifanc ag ADY sy’n cynnwys yr hyn sy’n rhaid ei wneud i’w cefnogi a sut y gwneir hynny. Mae eu proffil un dudalen yn rhan o’r ddogfen hon. Mae hwn yn ddogfen statudol.

 

Cynllunio Person Canolog

Mae cynllunio person ganolog ac adolygiadau person ganolog yn rhoi’r dysgwr wrth graidd y broses ac yn gofyn am eu barn a’u teimladau ynghŷd â barn a theimladau’r teulu, ffrindiau, athrawon ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn/person ifanc h.y. eu cylch cefnogaeth. Casgliad o strategaethau a dulliau yw cynllunio person ganolog a ddefnyddir i gynorthwyo’r broses gynllunio. Mae’n cynnwys beth sy’n digwydd nawr a chamau gwella i’r dyfodol.

 

Trwy’r dull hwn, gellir adnabod deilliannau person ganolog penodol iawn. Adeg adolygu’r CDU, bydd y cyfarfod yn berson ganolog ac yn canolbwyntio ar:

  • beth mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu am y dysgwr;
  • dyheadau’r dysgwr a’r teulu;
  • deall yr hyn sy’n bwysig i’r dysgwr;
  • mynd i’r afael â’r hyn sy’n bwysig i’r dysgwr fel y gall wneud cynnydd;
  • disgrifio beth yw cefnogaeth dda;
  • dadansoddi beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio o safbwynt eraill;
  • datblygu cynllun gweithredu sy’n seiliedig ar y deilliannau person-ganolog;
  • cyfleoedd i ofyn cwestiynau.

 

Y plentyn/ person ifanc sy’n ganolog i’r CDU a gofynnir iddynt beth yw eu syniadau, barn a’u dymuniadau. Gofynnir hefyd i rieni/gofalwyr roi eu barn am natur yr ADY a pha gefnogaeth hoffent ei gael ar gyfer eu plentyn/person ifanc. 

Gofynnir hefyd i unrhyw asiantaeth allanol sy’n gweithio gyda’r plentyn/person ifanc i gyfrannu at y CDU. Gallai hyn fod o’r gwasanaeth iechyd, gwasanethau cymdeithasol neu asiantaethau eraill sy’n ymwneud â gofal a chefnogaeth. Bydd yr ysgol yn cynnal cyfarfodydd lle gall pawb rannu eu syniadau a chynhwysir y targedau a dulliau cefnogi pwysicaf yn y CDU. Bydd cyfrifoldeb gan berson  enwebedig dros sicrhau bod y cynllun yn gweithio ac yn gyfredol.



Darpariaeth cyffredinol

Cyfrifoldeb athrawon a staff yr ysgol yw rhoi mynediad i bob disgybl i’r dysgu. Mae’r Proffil Un Dudalen yn amlinellu tri maes allweddol:

  • beth mae pobl yn hoffi ac edmygu am y dysgwr
  • beth sy’n bwysig i’r dysgwr
  • beth sy’n bwysig i’r dysgwr (y ffordd orau i’w cefnogi)

 

Bydd athrawon yn medru defnyddio’r wybodaeth hyn i’w cynorthwyo i gynllunio eu gwersi a’u hasesiadau. Darpariaeth gyffredinol yw’r enw a roddir ar y gefnogaeth sydd yn agored i bob disgybl, p’un ai bod ganddynt ADY ai peidio.

Dyma’r ddarpariaeth gyffredinol ym Maes y Gwendraeth:

 

 

 

Os oes gennych unrhyw ofid neu bryder am ADY yna dylech siarad â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol sef Mrs Tracey Jenkins.  

 

Mae plant a phobl ifanc yn dysgu ar gyflymderau gwahanol, ac mae gan bawb ei gryfderau a meysydd o anhawster wrth ddysgu. Bydd llawer o ddisgyblion yn darganfod y gellir diwallu eu hanghenion dysgu drwy amrediad o strategaethau sy’n digwydd yn naturiol fel rhan o addysgu o ansawdd uchel

Er hynny, efallai bydd rhai plant a phobl ifanc yn dal i brofi anawsterau gyda’u dysgu ac angen, efallai, rhywbeth gwahanol neu ychwanegol at yr hyn sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth.

**Mae gan blentyn/ person ifanc ADY os ydynt yn profi anawsterau sylweddol uwch wrth ddysgu na mwyafrif y rhai eraill o’r un oed ac maent angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DddY) nad yw ar gael i eraill.

**Mae gan blentyn/ person ifanc ADY hefyd os oes ganddynt anabledd sy’n eu hatal rhag  manteisio/ o’r ddarpariaeth sydd ar gael yn gyffredinol.

Gall rhwystrau i ddysgu gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r meysydd canlynol:

  • Llythrennedd 
  • Rhifedd 
  • Ymddygiad 
  • Meddygol 
  • Synhwyraidd 
  • Dysgu Penodol 
  • Emosiynol



Monitro

Mae athrawon yn asesu ac adolygu cynnydd disgyblion yn rheolaidd. Os oes gan aelod o staff unrhyw bryderon am allu plentyn/ person ifanc i ddysgu, gallant gyfathrebu hyn i’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a fydd yn cysylltu â’r teulu.

Bydd yr athro’n defnyddio ystod o strategaethau yn y dosbarth a all gynnwys ymysg eraill:

 

  • rhoi amser ychwanegol i gwblhau tasgau
  • gwahaniaethu’r gwaith
  • defnyddio prosesydd geiriau i gofnodi atebion
  • defnyddio fframiau ysgrifennu i strwythuro’r gwaith
  • gwaith cyfoedion/grŵp

 

Os, trwy ddefnyddio rhai o’r strategaethau hyn, y ceir peth pryder o hyd am lefel y cynnydd a wneir, gall y dysgwr gwblhau rhai asesiadau yn yr ysgol yn ymwneud â darllen ac ysgrifennu neu efallai y bydd rhaid i’r ysgol ofyn am gyngor gan asiantaethau allanol a swyddogion y Sir.

 

Cysylltiadau Defnyddiol:

  • Dyslecsia

https://www.dyslexic.org.uk

https://www.bdadyslexia.org.uk

https://www.nhs.uk/conditions/dyslexia

 

  • ADHD

Home - ADHD Foundation : ADHD Foundation

 

  • Awtistiaeth

https://www.ambitiousaboutautism.org.uk/

https://www.autism.org.uk/what-we-do/branches/nas-carmarthenshire-branch

Hafan - Awtistiaeth Cymru | Autism Wales | National Autism Team

 

  • Tourettes

https://www.tourettes-action.org.uk/

 

  • Dolenni Cymorth

https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/additional-learning-needs

 

 https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/additional-learning-needs

 

https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/additional-learning-needs

 

https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/additional-learning-needs

 

https://wales.mencap.org.uk/