Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym Open/Close

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • Search this websiteSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

Canolfan Gwên

Canolfan Drochi Iaith Gwên Uwchradd

‘Mae gwên yr un peth ymhob iaith’

Rydym yn ffodus iawn fel ysgol fod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi sefydlu Canolfan Drochi Iaith ar gampws Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth. Bwriad Canolfan Drochi Iaith Gwên Uwchradd yw datblygu gallu ieithyddol disgyblion yn y Gymraeg er mwyn eu bod nhw’n gallu;

  • cyfathrebu’n eglur o ddydd i ddydd gyda’u ffrindiau, eu cyfoedion a’u hathrawon
  • meithrin dealltwriaeth gadarn o fewn eu gwersi er mwyn ymgymryd ȃ thasgau a gweithgareddau’n llwyddiannus 
  • helpu i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd er mwyn gwneud cynnydd da o fewn eu gwersi

Ar hyn o bryd, trefnir sesiynau wythnosol i grwpiau bach o ddisgyblion Blwyddyn 7 er mwyn derbyn cefnogaeth ychwanegol yn y Gymraeg. Yn ogystal, mae hwyr ddyfodiaid o ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol yn mynychu Canolfan Gwên tridiau’r wythnos er mwyn cael gwersi trochi Cymraeg.

 

Beth yw manteision Addysg Drochi?

Mae ymchwil yn dangos bod disgyblion sy’n profi addysg drochi yn;

  • rhagori yn academaidd
  • dysgu trydedd a phedwaredd iaith yn haws
  • deall a chofleidio diwylliannau eraill
  • meddu ar well ymwybyddiaeth o hunaniaeth, diwylliant a theimlad o gymdeithas
  • magu mwy o hunan barch
  • datblygu gwell sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol

 

‘Mae gwên yr un peth ymhob iaith’

canolfan drochi iaith gwen welsh newcomers immersion centre.pdf