Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • SearchSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

Canolfan yr Eithin  

Trwy brofiadau, bydd ein disgyblion yn datblygu ac yn adeiladu ar eu gwybodaeth a'u sgiliau trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Amcanion

  • Trin bob disgybl fel unigolion a chydnabod ei gryfderau a’i anghenion.
  • Creu awyrgylch diogel a chefnogol i bob unigolyn. 
  • Meithrin perthynas dda â’r disgyblion er mwyn sicrhau agwedd gadarnhaol at ddysgu.
  • Datblygu’r ymdeimlad o hunan werth. 
  • Galluogi datblygiad sgiliau cydweithredol a chymdeithasol. 
  • Meithrin yr ymdeimlad o berthyn i gymdeithas eang yr ysgol, trwy gymryd rhan ym mhob gweithgaredd addas. 
  • Darparu cyfle i bob disgybl, yn ôl ei allu, i gael mynediad i’r Cwricwlwm i Gymru, mewn ffordd hyblyg. 
  • Cydweithio’n agos â’r rhieni er lles y disgybl trwy rannu gwybodaeth berthnasol.
  • Cydweithio’n agos ag arbenigwyr eraill, e.e. therapyddion. 
  • Datblygu sgiliau byw a sgiliau cymdeithasol. 
  • System drws agored: croeso i unrhyw un ymuno â’r gwersi yn y Ganolfan yn unol â’r amserlen. 
  • Datblygu annibyniaeth yr unigolyn.  
  • Gwaith grŵp a gwaith unigol. 
  • Defnyddir Cyn Camau Cynnydd i lefelu’r disgyblion sy’n gweithio o dan lefelau Camau Cynnydd y Cwricwlwm. 
  • Ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 – 13 dilynir elfennau o gyrsiau Llwybrau Mynediad CBAC.

Cynhwysiad

Mae cynhwysiad yn rhoi cyfle i bob disgybl unigol i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol a chymdeithasol o fewn yr ysgol. Mae rhai disgyblion yn cofrestru gyda’u cyfoedion ac yn mynychu gwersi addas, ar ôl trafodaeth gydag arbenigwyr, rhieni a’r unigolyn. Mae trafodaeth gyson am hyn a gwneir newidiadau os bydd angen.

Staffio

Mae’r staff sydd yn gysylltiedig â’r Ganolfan yn cydweithio’n agos fel tîm er lles y disgybl. Yr  athrawon sydd â phrif gyfrifoldeb cynllunio a pharatoi, gyda’r staff cynorthwyol yn rhoi mewnbwn lle bo angen. Mae mewnbwn y staff cynorthwyol yn angenrheidiol gyda’r asesu a’r cyflwyno. Rydym yn cydweithio gydag athrawon eraill yn ôl y gofyn. Mae cynorthwywyr yn gweithio o dan reolaeth yr athrawon. Maen nhw hefyd yn mynd i wersi prif ffrwd i gefnogi’r disgyblion.

Athroniaeth Addysgol

Mae angen datblygu sgiliau personol, sgiliau byw, sgiliau cymdeithasol a sgiliau cyfathrebu.  Gwneir hyn oll trwy sefyllfaoedd realistig y tu fewn a thu allan i’r dosbarth. Mae’r profiad y tu allan i’r dosbarth yn rhan anhepgor o’r broses addysgol ac yn cadarnhau gwaith y dosbarth.  Mae tystiolaeth ddarluniadol o weithgareddau yn gofnod o waith y disgybl ac yn rhoi cyfle i  fesur datblygiad cyson - gwir adlewyrchiad o gynnydd camau bach.

Cwricwlwm y Ganolfan

Mae gan pob disgybl amserlen personol sy’n cynnwys pob agwedd o’r cwricwlwm boed yn unigol neu mewn grwp, yn y Ganolfan neu allan yn y brif ffrwd. Mae’r amserlen yn medru cynnwys y canlynol ar wahanol adegau trwy’r flwyddyn: 

  • Iaith / Llythrennedd 
  • Mathemateg / Rhifedd 
  • Gwyddoniaeth 
  • Thema (e.e: Cerdd, Celf, Hanes, Addysg Grefyddol a Daearyddiaeth)
  • Therapi Iaith a Lleferydd 
  • Llawysgrifen / Sgiliau Teipio 
  • Talkabout 
  • Lego 
  • Nofio 
  • Syrffio 
  • Seiclo 
  • Teithiau siopa / bwyd mewn lle bwyta 
  • Coginio 
  • Glendid personol 
  • Defnydd o Storïau Cymdeithasol
  • Athletau 
  • Ymweliadau e.e. Sinema, Bowlio, Sioeau 
  • Cystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd 
  • Chwaraeon  
  • Llwybrau Dysgu CBAC (Blwyddyn 10+) 

Manylion Cyswllt

Llinos Watkins

Pennaeth y Ganolfan

llinos.watkins@maesygwendraeth.org

01269 833900