Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • SearchSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

Cefnogaeth Iechyd a Lles

Mae'r ardal Iechyd a Lles yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn eich helpu i ddeall a gwerthfawrogi bod iechyd a lles yn bwysig. Nid yn unig ydyw'n eich galluogi i ddysgu'n llwyddiannus ond mae hefyd yn helpu i fod yn unigolion annibynnol, hapus ac iach. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am nifer o asiantaethau allanol sy'n gallu ein helpu.
Os oes rhywbeth yn eich poeni neu oes gennych unrhyw gwestiynau, yna mae'n bwysig i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddynt. Gallwch siarad gyda rhiant/gofalwr, athro/athrawes, tiwtor dosbarth, pennaeth blwyddyn, rheolwr cynhwysiant neu unrhyw aelod o staff yr ysgol. Rydym yma i'ch helpu a'ch cefnogi. 


Dilynwch ein tudalen Iechyd a Lles ar Instagram @iechydalles_maesygwendraeth

 

Gwasanaeth cwnsela'r ysgol - Area 43

 

Dyfyniadau Positif || Positivity Quotes

Rhestr gynhwysfawr o Linellau Cymorth ac Apiau Hunanofal

llinellau cymorth.pdf

2 safecall poster pc welsh.pdf

1 safecall poster yp welsh.pdf

 

 Cefnogaeth Iechyd Meddwl

 

Mae gwefan Meddwl yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meic yw'r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru rhwng 0 a 25 oed. Gellir cysylltu â gwasanaeth dwyieithog Meic, yn gyfrinachol ac am ddim, ar y ffôn (08088023456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein ar ein gwefan. Rydym yn agored rhwng 8yb a hanner nos bob dydd o'r flwyddyn. 

Gwasanaeth '111 pwyso 2'

 

Mae gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG ar gyfer iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bob oedran. Gall pobl ddefnyddio'r rhif hwn os oes ganddynt bryder iechyd meddwl brys eu hunain neu bryder am rywun maen nhw'n ei adnabod.

Trwy roi mynediad at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu, mae’n gallu helpu i gefnogi pobl i reoli argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, gall fod yn ddewis gwahanol yn lle mynd i adran frys neu ffonio'r heddlu.

Mae modd cael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio GIG 111 a dewis rhif 2. Bydd galwyr yn cael eu trosglwyddo i aelod penodedig o dîm iechyd meddwl yn ardal eu bwrdd iechyd lleol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

 

NSPCC - Adnoddau i rieni/gofalwyr

bilingual nspcc resources parent carer schools autumn 2023 v3 .pdf

Gwybodaeth am raglen frechu HPV

cym hpv school toolkit final.pdf

Cyngor ar sut i fwyta'n iach

2 change for life lunchbox leaflet welsh final.pdf

public health a4 welsh april19 await final.pdf

welsh government 190219 healthy lunchboxes leaflet welsh.pdf

Diodydd Egni

 

Fepio 

 Cliciwch ar y lluniau i dderbyn gwybodaeth ynglŷn â Fepio

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglyn a Fepio || Vaping

School Beat Cymru

Heddlu'n diogelu plant Cymru trwy Addysg Atal Troseddau SchoolBeat.Cymru

support and report directory.pdf

 

 

Llinellau Cymorth a rhifau cyswllt ar gyfer materion camdriniaeth domestig

information regarding support lines for domestic abuse related issues.pdf

Cefnogaeth ar Gydberthynasoedd a Rhywioldeb 

Cliciwch ar y wefannau isod i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglyn â materion Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Brook

Stonewall

  

LGBTQ+

Llinellau cymorth a sesiynau Zoom ar gyfer materion sydd yn ymwneud â LGBTQ+ -  Tudalen Facebook
 

Urddas Mislif 

Mae mynd i'r afael â thlodi mislif yn parhau'n flaenoriaeth i'r llywodraeth. Cymru sy'n Falch o'r Mislif yw cynllun y llywodraeth i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.  Nod y cynllun hyn yw gwneud Cymru yn genedl wirioneddol falch o’r mislif ac yn un sy’n sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt heb embaras na chywilydd.

 Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mislif ac yn falch fel awdurdod lleol i fod yn darparu'r rhai mewn angen â chynnyrch misglwyf am ddim. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

 Cliciwch yma i ddarllen mwy o wybodaeth am Fislifoedd

Cefnogaeth Choices / Barod

Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol i Bobl Ifanc yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin

Cyngor i blant a phobl ifanc; problemau a phryderon ar-lein

 Cymorth ar-leinMae llawer o bethau gwych am y cyfryngau cymdeithasol, apiau a gemau; i'r rhan fwyaf ohonon ni, fyddai bywyd ddim yr un peth hebddyn nhw. Ond weithiau mae pethau'n gallu mynd o chwith, a gallech chi deimlo eich bod mewn sefyllfa anniogel neu annymunol.

Cliciwch ar y dolen yma am gyngor ar beth i'w wneud a ble i fynd am help os byddwch chi'n poeni am rywbeth sydd wedi digwydd ar-lein.  

 

 

 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Ydych chi'n ofalwr neu yn adnabod rhywun sydd yn gofalu am rywun arall? Os ydych, yna ewch i gael sgwrs gyda'ch tiwtor dosbarth, pennaeth blwyddyn neu Mrs Adams / Mrs Demarco.

 


 

 

carers needs assessment poster bilingual nov 2024.pdf

do you know oct 2024 cym.pdf

preventative flyer.pdf

Ymarferion Meddwlgarwch i'ch helpu chi i gysgu