Cyfnod allweddol 5
Uwch Gyfrannol a Safon Uwch (Blwyddyn 12 a 13)
Yng Nghyfnod Allweddol 5 yn Ysgol Maes y Gwendraeth bydd rhan fwyaf y myfyrwyr yn dilyn tri phwnc dewisol Lefel 3/Uwch Gyfrannol ynghyd â'r Tystysgrif Her Sgiliau. Bydd cyfle hefyd i ail-sefyll pynciau craidd TGAU.
Fel rhan o’n darpariaeth Cyfnod Allweddol 5, mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn gweithio o fewn y Bartneriaeth Addysg Gymraeg (PAG) sy’n darparu cyrsiau trwy fodel dysgu cyfunol sydd wedi ei adnabod fel model arloesol ac arfer arbennig sy’n cynnig nifer o bynciau ychwanegol i’r ysgol er mwyn ehangu dewis ac i baratoi myfyrwyr at ffordd newydd o weithio yn y gwaith neu’r Brifysgol.
O ganlyniad mae’r ysgol erbyn hyn yn cynnig y cyrsiau canlynol i’r myfyrwyr:
Amaethyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Addysg Gorfforol, Bioleg, Cemeg, Celf, Celf-Tecstilau, Celf-Ffotograffiaeth, Cerdd, Cymraeg, Chwaraeon, Daearyddiaeth, Drama, Electroneg, Ffiseg, Ffrangeg, Gofal Plant, Gwleidyddiaeth, Gwyddor Bwyd a Maeth, Gwyddor Feddygol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (UG), Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Tyst L3), Mathemateg, Mathemateg Bellach (UG), Peirianneg, Sbaeneg, Seicoleg, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth a Throseddeg.
Gweler llyfryn Llwybrau Dysgu am fwy o fanylion.