Diogelu ac Amddiffyn plant
Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn ymrwymedig i sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Credwn yn gryf yn hawl pob disgybl i ddysgu mewn amgylchedd gefnogol, ofalgar a diogel er mwyn datblygu’r gred, uchelgais a’r hyder i wireddu eu potensial llawn. Mae gan yr ysgol weithdrefnau cadarn ar gyfer cadw'n plant yn ddiogel. Rydym yn cydweithio’n agos gyda rhieni/gofalwyr ac asiantaethau allanol ac yn dilyn Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan ar gyfer diogelu. Mae polisi penodol gennym sydd i’w weld ar y wefan o dan yr adran Gwybodaeth || Polisiau ysgol.
Mae staff allweddol o fewn yr ysgol yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, sydd wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol. Y staff allweddol yma yw:
Mrs Rhian Adams:
Athro Dynodedig Amddiffyn Plant
Mr Arwyn Thomas:
Dirprwy Athro Dynodedig Amddiffyn Plant
Mrs Samantha Demarco:
Dirprwy Athro Dynodedig Amddiffyn Plant
Operation Encompass || Operation Endeavour