Diogelwch Ar-lein
PC Ali - Ein Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion
Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ynglyn â diogelwch ar-lein ar wefan Hwb neu drwy clicio ar y ddolen ganlynol:
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Cyfeirio'ch plentyn at y wybodaeth a’r cymorth cywir
Os ydych chi'n credu bod eich plentyn yn cael problem ar-lein ond ei fod yn amharod i siarad â chi amdano, gallwch ei gyfeirio at y dudalen problemau a phryderon ar-lein ar Hwb. Mae'r dudalen hon wedi'i chreu fel bod plant a phobl ifanc yn gwybod beth i'w wneud ac i ble i droi am help gyda nifer o faterion ar-lein.
Mae gan CEOP Education adnodd gwych gydag awgrymiadau ar gyfer dechrau sgwrs gyda'ch plentyn am fater sensitif neu rywbeth nad ydych fel arfer yn siarad amdano.
Canllawiau i deuluoedd
Gall cadw i fyny â'r apiau cyfryngau cymdeithasol a’r apiau gemau diweddaraf y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio fod yn gymhleth! Mae ein canllawiau ynghylch apiau yn tynnu sylw at yr apiau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd ac yn cynnwys gwybodaeth am y risgiau a sut i roi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch ar waith.
Os ydych chi'n ystyried prynu ffôn clyfar i'ch plentyn neu wedi gwneud hynny’n ddiweddar, byddwch chi am sicrhau ei fod wedi'i sefydlu'n gywir ac yn ddiogel. Mae Internet Matters ac EE wedi cynhyrchu canllawiau i rieni a gofalwyr fel rhan o'u trwydded PhoneSmart, er mwyn eich helpu i siarad â'ch plant am ddiogelwch ar-lein a sefydlu eu ffonau clyfar yn ddiogel.
Ydych chi'n cynllunio gwyliau haf eleni? Edrychwch ar awgrymiadau arbenigol Get Safe Online ar osgoi twyll a chwilio ac archebu gwyliau yn ddiogel a theithio yn hyderus.
Tueddiadau ar-lein newydd
Mae yna rai materion a thueddiadau newydd y gallech fod wedi clywed amdanynt ac eisiau gwybod mwy amdanynt.
- Gall heriau ar-lein ledaenu'n gyflym ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar apiau fel TikTok. Os ydych chi'n poeni y gallai'ch plentyn fod wedi dod i gysylltiad â her niweidiol ar-lein, mae canllawiau ar gael i'ch cefnogi.
- Mae sgwrsfotiaid deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwyfwy poblogaidd gyda phlant a phobl ifanc. I ddysgu mwy am sut maent yn cael eu defnyddio, edrychwch ar y canllaw Ysgolion Mwy Diogel.
- Os oes gennych unrhyw bryderon y gallai eich plentyn fod yn cyrchu'r we dywyll, bydd y daflen ffeithiau hon a gynhyrchir gan CEOP Education yn eich helpu i gael sgyrsiau gwybodus a chefnogi'ch plentyn.
- Mae'r metafyd yn gysyniad sy'n cael ei drafod yn eang fel dyfodol posibl y rhyngrwyd. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu chi a'ch teulu i ddeall y cysyniadau y tu ôl i'r metafyd yn y dyfodol, sut y gellir ei ddefnyddio a risgiau a pheryglon posibl.
- Mae camdrinwyr yn aml yn ceisio targedu plant trwy lwyfannau ac apiau ar-lein i ofyn am luniau a fideos rhywiol. Dysgwch fwy am y ffyrdd ymarferol o helpu'ch plentyn i leihau'r risg a defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel gyda'r canllaw hwn gan y Internet Watch Foundation (IWF).
Camwybodaeth
Gall camwybodaeth fod ar sawl ffurf ac mae'n bwysig peidio â chredu popeth rydych chi'n ei weld, ei glywed na'i ddarllen ar-lein. Nid mewn erthyglau newyddion yn unig y mae camwybodaeth yn bodoli. Fe'i gwelir yn aml ar ffurf meme neu lun wedi'i olygu, delwedd allan o’i gyd-destun neu neges syml ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae cymorth ar gael i'ch helpu i nodi ac atal gwybodaeth anghywir rhag lledaenu.
Os ydych chi'n poeni am fater neu brofiad y mae plentyn neu berson ifanc wedi'i brofi, mae help a chyngor ar gael. Gall ein tudalen adrodd ar broblem ar-lein ar Cadw'n Ddiogel Ar-lein, eich helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir, beth bynnag fo'r mater.