Gwerthoedd yr Ysgol
I gynnal safonau disgyblaeth uchel, rydym yn annog disgyblion i feithrin agwedd gadarnhaol a pharchus. Mae'r rhain yn cael eu hadlewyrchu a'u cefnogi trwy ein gwerthoedd cytûn.
Mae gan yr ysgol 3 phrif werth sef;
- Parod i ddysgu
- Diogel i ddysgu
- Parch at ddysgu
Fel gwraidd i bob gwerth mae Cymreictod.
Disgwylir i bawb sydd yn rhan o gymuned yr ysgol i barchu, siarad a dathlu'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd ysgol.
Mae'r gwerthoedd yn glir, yn syml ac yn rhwydd i ddisgyblion i ddeall.
Rydym fel cymuned ysgol yn ceisio gwreiddio'r gwerthoedd i bob agwedd o fywyd ysgol. Maen nhw'n weledol ym mhob ystafell ddosbarth ac o gwmpas campws yr ysgol.
Wrth edrych yn fanylach ar y gwerthoedd mae yna amryw o eirfa sydd yn cyfateb â bob gwerth.
Parod i ddysgu
Disgwylir i ddisgyblion fod yn uchelgeisiol, cydweithio ag eraill, dangos gwytnwch, positifrwydd a chymhelliant.
Dylid cydymffurfio â'r rheolau gwisg ysgol a bod yn bresennol ac yn brydlon i'r ysgol ac i wersi.
Dysgwylir i ddisgyblion ddod â'r adnoddau cywir i'r ysgol bob dydd.
Diogel i ddysgu
Anogir disgyblion i ddangos caredigrwydd a chyfeillgarwch at eraill gan ddilyn ein polisi gwrth-fwlio.
Dysgwylir i bawb gymryd cyfrifoldeb dros eu hun a thrwy ofalu am eraill.
Parch at ddysgu
Disgwylir i ddisgyblion ddangos cydweithrediad a chwrteisi wrth gael eu hannog i adeiladu disgwyliadau uchel er mwyn cyflawni eu botensial llawn.
Mae ein hymddygiad ni’n effeithio ar bawb a phopeth.
Gall athro ddim addysgu a gall disgybl ddim dysgu mewn dosbarth pan fod lleiafrif yn ymddwyn yn sarhaus a heb barch.
Mae ymddygiad ein disgyblion heddiw yn dylanwadu ar eu yfory.