Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Ein nod fel Maes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw rhoi cyfleoedd i'n dysgwyr ddatblygu gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac Ieithoedd Rhyngwladol. Cyflawnir hyn trwy wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu; trwy edrych ar ieithoedd mewn perthynas â’i gilydd ac, wrth gwrs, trwy lenyddiaeth.
Anelwn i danio chwilfrydedd a brwdfrydedd y dysgwyr wrth ymwneud â ieithoedd Cymru ac ieithoedd y byd, a’u paratoi i gyfathrebu’n effeithiol mewn cymdeithas amlieithog. Trwy arbrofi a mentro gyda geirfa a phatrymau, bydd disgyblion yn datblygu creadigrwydd a’r gallu i ddyfalbarhau yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd i gymysgu â’i gilydd. Ar lefel ehangach, mae cynnig y cyfle i ddysgu sawl iaith yn dyfnhau dealltwriaeth y dysgwyr o’r berthynas rhwng diwylliannau a chymunedau gwahanol, a fydd yn eu galluogi i gyfrannu at gymdeithas yn hyderus a chydag empathi.
Mae manteision y cyswllt agos rhwng ieithoedd ym Maes y Gwendraeth yn amlwg, gyda disgyblion yn cael nifer o brofiadau sy’n gwneud cysylltiadau rhwng ieithoedd e.e. prosiect ym mlwyddyn 8 sy’n arwain at ddisgyblion yn rhoi cyflwyniad tair-ieithog o flaen beirniad allanol yn ogystal â disgyblion eraill. Mae’r hyder a’r annibyniaeth a gaiff eu meithrin mewn gweithgareddau o’r fath, heb sôn am y sgiliau y’i datblygir, yn amhrisiadwy.
Mae’r sgiliau hyn yn allweddol i alluogi dysgwyr i fynegi eu hunain yn effeithiol, bod yn agored i safbwyntiau pobl eraill a datblygu perthynas gadarnhaol ag eraill. Yn ei hanfod, cyfathrebu rhwng pobl yw craidd y Maes hwn, gan gefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu || Languages, Literacy and Communication