Llais y Rhiant / Gwarcheidwad
Rydym yn awyddus i wrando ar lais rhieni/gwarcheidwaid. Mae’n galonogol derbyn canmoliaeth gan rieni a gwarcheidwaid am yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a derbyn syniadau ac awgrymiadau ar feysydd y gallem eu gwella ymhellach.
Os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso cynnes i chi anfon e-bost at yr Uwch Dîm Arwain.
Cysylltwch a'r Uwch Dîm Arwain
Rydym yn cynnal cyfarfod tymhorol gyda charfan o rieni/warcheidwaid yr ysgol a hynny er mwyn trafod amrywiol faterion megis iechyd a lles; darpariaeth gwersi ABCh; Classcharts.
Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, anfonwch e-bost at rhian.adams@maesygwendraeth.org