ParentPay
System dalu ar-lein : PARENTPAY
Mae system ParentPay yn ffordd fwy cyfleus a diogel i chi dalu am brydau ysgol ar-lein. Er mwyn dechrau defnyddio ParentPay, byddwch yn derbyn llythyr gydag enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw. Bydd rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf. Hefyd, bydd angen arnoch gyfeiriad e-bost dilys.
Trwy ddefnyddio'ch cyfrif ParentPay, gallwch wneud y canlynol:
-
talu am brydau ysgol ac eitemau eraill megis tripiau ysgol, gwisg ysgol ac ati.
-
gweld hanes yr holl daliadau rydych wedi'u gwneud
-
creu un cyfrif ar gyfer eich holl blant
-
cael derbynebau a negeseuon e-bost awtomatig yn eich atgoffa bod angen rhoi rhagor o arian yn eich cyfrif. Gallwch dderbyn negeseuon atgoffa trwy neges destun ond mae yna ffi o 6c y neges ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae derbynebau a negeseuon atgoffa dros e-bost yn rhad ac am ddim.
Ni fydd angen i chi anfon arian parod na sieciau gyda'ch plant i'r ysgol, mae'r taliadau'n digwydd ar unwaith a bydd yr arian ar gael yn syth ar gyfrif eich plentyn. Ni fyddwn yn derbyn taliadau arian parod/sieciau am brydau ysgol yn yr ysgol. Os oes angen i chi barhau i wneud taliadau trwy ddefnyddio arian parod, gallwch ddefnyddio PayPoint sydd ar gael mewn nifer o siopau lleol yn y Sir.