Prydau Ysgol am ddim
Mae prydau ysgol am ddim yn dibynnu ar incwm eich cartref ac os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae'n bwysig iawn eich bod yn hawlio am hyn. Ni fydd y pryd y mae eich plentyn yn ei dderbyn yn wahanol a bydd yn golygu eich bod yn gymwys i gael unrhyw gymorth sydd ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol neu os bydd ysgolion yn cau.
Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch yma.
Gallech fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydych chi'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen warant y Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Treth Plant ac nid yw eich incwm blynyddol yn fwy na £16,190
- Ategiad Credyd Treth Gwaith – wedi’i dalu 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol ac nid yw incwm net blynyddol eich aelwyd yn fwy na £7,400 (£616.67 y mis)
- Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith yn ogystal ag unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, ni fyddwch yn gymwys, hyd yn oed os yw incwm yr aelwyd yn is na £16,190.
Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ac angen rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau e.e., newid cyfeiriad, ysgol, newid hawl i fudd-daliadau neu blentyn ychwanegol yn mynychu'r ysgol, mae angen i chi roi gwybod i ni am eich 'Newid mewn Amgylchiadau'.
Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ond nad oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau, NID oes angen i chi wneud cais eto.
GWNEUD CAIS AM BRYDAU YSGOL AM DDIM A RHOI GWYBOD AM NEWID MEWN AMGYLCHIADAU