Rhifedd
Cyfnod allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9)
Bydd yr holl nodiadau a fydd ei angen ar y disgybl i adolygu ac ymarfer dulliau, yn cael eu gosod ar Google Classroom y disgybl ar ddechrau pob uned newydd o waith Mathemateg ar ffurf llyfr nodiadau digidol cynhwysfawr. Maent yn cynnwys enghreifftiau ac esboniadau gweledol, cam wrth gam o’r safon uchaf.
Mae’r rhain wedi eu creu gan athrawon yr adran Fathemateg, ac fe’i defnyddir gan yr athrawon a’r disgyblion o fewn y gwersi yn ddyddiol. Gall y disgybl ddewis i ail-ymweld â rhain pan fynnir e.e. wrth gwblhau tasg gwaith cartref neu wrth adolygu at brawf, a gellir hyd yn oed edrych dros y gwaith nesaf mewn paratoad ar gyfer y gwersi dilynol petai’r disgybl yn dymuno.
Isod ceir casgliad o wefannau sy’n cynnig cyfleoedd pellach i adolygu ac ymarfer pob math o agweddau o fathemateg CA3 a thu hwnt. Bydd angen i’r disgybl ddewis i glicio ar y testun perthnasol.
Adnoddau Cyffredinol CA3
Mathemateg.com
Course: Blwyddyn 7 CiG (mathemateg.com)
Mae fidio ar gyfer pob un testun posibl o fewn mathemateg ar gael yn hawdd ar youtube. Mae modd cael mynediad i’r fideos i gyd isod
Cip ar Fathemateg
Cip ar Fathemateg | Maths Spying (gov.wales)
Gwefan sy’n esbonio ac yn dangos sut i gario allan gwahanol ddulliau cyfrifo. Ar gael yn y ddwy iaith dim ond i chi wasgu ar yr eicon ar gornel dde uchaf y sgrin.
BBC Bite Size
CA3 Mathemateg - Wales - BBC Bitesize
Cliciwch ar destun o’ch dewis a gallwch fynd ati i adolygu neu i brofi’ch hunan trwy brawf sy’n hunan farcio ar y sgrin.
NRICH - Mathematics Resources for Teachers, Parents and Students to Enrich Learning (maths.org)
Gwefan cyfrwng Saesneg yn unig. Adnodd da i ddatblygu sgiliau datrys problemau, neu os yn chwilio am her ychwanegol.
Corbettmaths – Videos, worksheets, 5-a-day and much more
Gwefan cyfrwng Saesneg yn unig. Yn cynnig fideos sy’n egluro dulliau a llwyth o ymarferion ar wahanol destunau.
Gwefan Saesneg yn unig. Yn cynnig bob math o adnoddau o gemau i ymarferion rhyngweithiol, fideos, posau, ymchwiliadau a cwestiynau papurau arholiad.
Times Tables Rock Stars – Times Tables Rock Stars (ttrockstars.com)
Mae’r ysgol yn tanysgrifio i’r wefan yma, ac mae bob disgybl CA3 wedi derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair personol er mwyn mewngofnodi. Gwefan wych ar gyfer ymarfer adalw tablau lluosi.
https://thirdspacelearning.com/secondary-resources/
Digon o ymarferion i chi brofi eich hun ond dim ond ar gael yn Saesneg.
Cyfieithu Geirfa / Translation of terms
Adnoddau penodol i gyfoethogi Cwricwlwm Mathemateg Bl.7
Blwyddyn 7: Uned rhif (Medi i Tachwedd)
Isod ceir rhestr o gemau rhyngweithiol y gellid eu defnyddio i gefnogi’r dysgu o fewn yr uned 1af ym mlwyddyn 7
I adolygu gwaith rhif a’r dulliau o’r cynradd ewch i: CA2 Mathemateg - BBC Bitesize
Gemau rhyngweithiol;
Talgrynnu
Dulliau cyfrifo (adio, tynnu, lluosi a rhannu)
Ymarfer tablau lluosi hyd at 12x12
Ffracsiynau, Canrannau a Degolion
Cyfrifo ffracsiwn o swm
Canran o swm (rhai gyda cyfrifiannell a rhai heb)
Adnoddau Cyffredinol CA4
https://thirdspacelearning.com/secondary-resources/
Adnoddau Algebra CA4
https://educationalresources.wjec.co.uk/cy/Mathemateg/r/2730
Adnoddau Siap CA4
https://educationalresources.wjec.co.uk/cy/Mathemateg/r/2731
Adnoddau Rhif CA4
https://educationalresources.wjec.co.uk/cy/Mathemateg/r/2732
Adnoddau Ystadegau CA4
https://educationalresources.wjec.co.uk/cy/Mathemateg/r/2733
Pos y dydd er mwyn i chi ymarfer eich sgiliau rhifedd yn ddyddiol