Y Celfyddydau Mynegiannol
mewn byd lle mae unrhyw beth yn bosibl…
Arweinydd MDaPh: Miss Lisa Jones
Pam cael MDPh penodol i’r Celfyddydau Mynegiannol?
Mae dysgu trwy'r Celfyddydau Mynegiannol yn darparu cyfleoedd i archwilio, mireinio, a chyfleu syniadau, gan danio’r meddwl, y dychymyg a’r synhwyrau yn greadigol mewn byd lle mae unrhyw beth yn bosibl. Mae ymgysylltu â'r celfyddydau mynegiannol yn gofyn am gymhwyso, dyfalbarhad a sylw manwl i fanylion; galluoedd sydd â buddion ar draws dysgu. Mae galw mawr am y sgiliau lefel uwch hyn gan gyflogwyr ac maent yn hanfodol i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion gweithredol yn yr unfed ganrif ar hugain. Trwy faes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol bydd dysgwyr yn magu hyder i dyfu a defnyddio eu lleisiau a'u hunaniaeth artistig a byddant yn archwilio ffyrdd o gysylltu a chyfathrebu ag eraill. Mae'r maes dysgu a phrofiad hwn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu gwerthfawrogiad gydol oes a mwynhad o weithgareddau celfyddydau mynegiannol a diwylliannol, a hefyd i gymryd rhan ynddynt.
Sut gall maes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol gefnogi iechyd a lles?
Mae pandemig Covid-19 wedi golygu bod bywyd wedi newid y tu hwnt i bob cydnabyddiaeth, gan deimlo'n rhyfedd, yn ddryslyd ac yn llethol yn aml. Ni fu gofalu am ein hiechyd a'n lles erioed mor bwysig. Mae'n hanfodol i les meddyliol pawb gael allfa i fynegi emosiynau ac mae llawer yn gwneud hyn trwy'r celfyddydau. Mae cynllunio a datblygu cwricwlwm celfyddydau mynegiannol cyfoethog yn darparu llwyfan ar gyfer cefnogi lles pob dysgwr.
"Mae'r Celfyddydau'n helpu pobl i ymdopi mewn amseroedd tywyll... hyd yn oed yn ystod pandemig." Barbara Stcherbatcheff (Fforwm Economaidd y Byd 2020)
Y weledigaeth ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol
Mae Cwricwlwm i Gymru yn codi proffil y Maes hwn ac yn rhoi statws cyfartal iddo gyda'r holl feysydd eraill.
- Bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn darparu cyd-destunau cyfoethog a dilys i ddysgwyr wireddu'r pedwar diben.
- Mae natur ddeinamig a chynhwysol y Celfyddydau Mynegiannol yn datblygu cymhelliant a hunanhyder dysgwyr a’u sgiliau artistig, creadigol a pherfformio.
- Bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn meithrin piblinell o dalent i gynnal a datblygu'r cyfleoedd amrywiol yn y diwydiannau creadigol.
- Mae'r Maes hwn hefyd yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys, creadigrwydd a medrau meddwl yn feirniadol.
Beth yw’r Celfyddydau Mynegiannol?
Mae'r maes dysgu a phrofiad hwn yn cynnwys pum disgyblaeth, sef celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth, ac mae gan bob disgyblaeth ei gorff ei hun o sgiliau a gwybodaeth. Mae'n bwysig bod ysgolion yn darparu cyfleoedd eang a chytbwys sy'n galluogi eu dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben ar draws bob un o’r disgyblaethau.
CELF
Mae celf yn cynnwys datblygu ac arbrofi gydag ystod diderfyn o adnoddau, deunyddiau, technegau a phrosesau ar draws pob math o gelf, crefft a dylunio.
DAWNS
Mae dawns yn cynnwys perfformio, coreograffi a gwerthfawrogiad ar draws ystod o arddulliau.
DRAMA
Mae drama'n cynnwys actio, cyfarwyddo, dylunio, theatr dechnegol a gweinyddiaeth gelf.
FFILM A CHYFRYNGAU DIGIDOL
Mae ffilm a chyfryngau digidol yn cynnwys teledu, ffilm, radio, dylunio gemau, ffotograffiaeth, digwyddiadau byw a sgiliau cynhyrchu theatrig, cyfryngau print, cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchu sain a sain.
CERDDORIAETH
Mae cerddoriaeth yn cynnwys perfformio, byrfyfyrio a chyfansoddi, gwrando a gwerthfawrogi.
Mae'r pum disgyblaeth hyn yn rhyng-gysylltiedig, a'r hyn sy'n eu cysylltu yw'r broses greadigol o archwilio, ymateb a chreu. Y broses hon yw'r edau gyffredin ac anaml iawn y maent yn gweithio ar eu pennau eu hunain.
Bydd y broses greadigol o fewn y celfyddydau mynegiannol yn rhoi llwyfan i ddysgwyr archwilio posibiliadau creadigol a mynegiannol. Gall y broses helpu dysgwyr i ddeall a throsglwyddo'r ddealltwriaeth hon o natur ffiniau a chymryd risg yn well, yn ogystal â sut i ymateb yn gynhyrchiol i'w camgymeriadau.
Yr hyn sy'n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol
Mae'n hanfodol myfyrio ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'r rhesymeg sy'n sail i bob un. Mae'n hollbwysig ymgysylltu â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a gwerthfawrogi eu pwysigrwydd wrth wireddu'r pedwar diben.
Mynegwyd yr hyn sy'n bwysig yn y Maes hwn mewn tri datganiad, sy'n cefnogi ac yn ategu ei gilydd ac na ddylid eu hystyried ar wahân. Mae'r datganiadau rhyng-gysylltiedig yn galluogi dysgwyr i ymgysylltu'n llawn â'r broses greadigol ym mhob un o'r disgyblaethau.
Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn darparu'r cysyniadau allweddol yn y Maes hwn a rhaid i'r holl ddysgu gysylltu yn ôl â nhw.
Yr hyn sy'n bwysig…
Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Cynlluniau Presennol y Celfyddydau Mynegiannol
Year 7
THEMA 1: “Gorau Cam – Cam Cyntaf”
Year 7
THEMA 2: “Cawsom Wlad i’w Chadw…”
Year 8
THEMA 1: “Mynegiadaeth” // “Expressionism”
Year 8
THEMA 2: “Cyfnod Cyfoes”
Dyfyniadau Defnyddiol
“Creativity is as important as literacy, and we should treat it with the same status.” Sir Ken Robinson
“If you’re not prepared to be wrong, you’ll never come up with anything original.” Sir Ken Robinson
“All children are born artists – the problem is to remain an artist as we grow up.” Pablo Picasso
“Music gives a soul to the universe, wings to the mind, flight to the imagination, and life to everything.” – Plato
“Create your own method. Don't depend slavishly on mine. Make up something that will work for you! But keep breaking traditions, I beg you.” Constantin Stanislavski
Dilynwch ein tudalen Celf a Dylunio ar Instagram @celfadylunio_maesygwendraeth