Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • SearchSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

Y Gilfach    

Croeso!

Trwy ddewis Chweched Dosbarth Maes y Gwendraeth, mae eich plentyn yn ymrwymo i lwybr academaidd llwyddiannus. Fe fyddwn yn eu meithrin a’u paratoi ar gyfer dilyn llwybr Prifysgol, cyflogaeth neu brentisiaeth a thu hwnt. Fel ‘myfyriwr proffesiynol’ maent yn gwneud dewisiadau am ble a beth i’w astudio a sut maent yn mynd atiastudio. 

Yma yn Y Gilfach, anogwn ein dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial. Mae ein myfyrwyr yn arwain gyda'u dysgu, gan ddatblygu sgiliau academaidd a phersonol ar gyfer llwyddiant yn y Chweched Dosbarth a bywyd y tu hwnt i'n hysgol. 

Safonau a Disgwyliadau

Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn gymuned ddysgu sy'n datblygu pobl ifanc sydd â meddwl agored, yn onest, yn ddibynadwy ac yn annibynnol.

Fel ysgol, rydym yn gwerthfawrogi’r canlynol:

  • Parch
  • Rhyddid gyda Chyfrifoldeb
  • Annibyniaeth
  • Diogelwch
  • Llwyddiant

Dyma gyfnod o newid iddynt yn eu bywydau - newid o fod yn ddisgyblion i fod yn bobl ifanc, i fod yn oedolion. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd disgwyl eu bod yn:

  • Aeddfedu o ran eu cymeriad a’u personoliaeth.
  • Datblygu’n unigolion sydd â chyfraniad unigryw i’w gynnig i’r gymdeithas maent yn perthyn iddi.
  • Ymgymryd â chyfrifoldebau fel arweinwyr i weddill disgyblion yr ysgol.
  • Ymddwyn yn synhwyrol a dangos parch at eu hathrawon a’u cyd-fyfyrwyr; adeiladu a chynnal perthynas bositif ag athrawon a chyd-fyfyrwyr.
  • Cwblhau'r holl waith cwrs a gwaith cartref gan ddilyn a pharchu terfynau amser.
  • Cyfrannu at weithgareddau’r ysgol a rhoi arweiniad i’r disgyblion iau mewn meysydd allgyrsiol.
  • Rol fodelau da - o safbwynt agwedd bositif a chwrtais, gwisg daclus, prydlondeb, glendid a’r defnydd o’r Gymraeg yn naturiol yn yr ysgol. 

Pennaeth y Chweched Dosbarth

Rhiannon Daniel: rhiannon.daniel@maesygwendraeth.org

 

Dirprwy Bennaeth y Chweched Dosbarth

Mared Williams; mared.williams@maesygwendraeth.org

 

Cyfrifoldeb Cwricwlwm/BTEC/PAG

Andrew Payne; andrew.payne@maesygwendraeth.org